Glynne Roberts


  Glynne Roberts

Glynne yw cadeirydd Bwyd Da Môn, y Cwmni Buddiannau Cymunedol a sefydlwyd i fynd i’r afael â thlodi bwyd a gwastraff bwyd yn Sir Fôn.

Mae Glynne wedi gweithio i’r GIG ers dros 30 mlynedd, ac mae ganddo lawer o brofiad yn gweithio mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol.

Gyda chefndir yn y maes iechyd cyhoeddus yn ogystal â rheoli gwasanaethau clinigol, penodwyd Glynne fel y Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer Well North Wales, rhaglen aml-asiantaeth sy’n anelu at wella iechyd y cymunedau tlotaf yng Ngogledd Cymru, ym mis Gorffennaf 2016. Mae’r rhaglen wedi esblygu i gynnwys nifer o brosiectau arloesol gyda’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, megis datblygu cynigion ar gyfer canolfannau iechyd a lles, tlodi bwyd, presgripsiynau cymdeithasol a datblygu cyfraniad y Bwrdd Iechyd at fynd i'r afael â digartrefedd.

Gan gydnabod fod penderfynyddion cymdeithasol iechyd y tu hwnt i waith traddodiadol y GIG, mae rhaglen Well North Wales wedi creu nifer o bartneriaethau aml-asiantaeth i sicrhau fod y Bwrdd Iechyd ar flaen y gad o ran gwaith atal ar draws Gogledd Cymru.