Bethan Russell Williams


Mae Bethan yn Brif Swyddog Mantell Gwynedd, sef y Cyngor Gwirfoddol Sirol yng Ngwynedd, ers 2004. Mae Mantell yn darparu cefnogaeth eang i’r sector wirfoddol a chymunedol ac i wirfoddolwyr yng Ngwynedd. Yn ei gwaith fel Prif Swyddog mae Bethan yn gyfrifol am arweiniad strategol y cwmni sydd yn gweithredu ar draws y sir ddaearyddol fwyaf yng Ngogledd Cymru.

Mae Bethan yn cynrychioli’r trydydd sector ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd & Mon a nifer o bartneriaethau strategol eraill.

Mae gan Bethan ddiddordeb arbennig mewn mesur gwerth cymdeithasol er mwyn arddangos gwerth y trydydd sector ac mae Mantell Gwynedd y corff ambarel cyntaf ym Mhrydain i dderbyn statws COMMIT sydd yn farc ansawdd yn profi fod Mantell Gwynedd wedi gwreiddio gwerth cymdeithasol i’w holl waith.