Cylch Gorchwyl
Rhesymeg
Tlodi bwyd yw’r anallu i fforddio, neu gael mynediad i, fwyd i greu diet iach. Mae’n gysylltiedig ag ansawdd bwyd, yn ogystal â swm a fforddiadwyedd. Mae’n ymwneud â mwy na bod yn llwglyd, ond cael digon o faeth i gyrraedd a chynnal iechyd a lles.
Mae maeth da yn cefnogi iechyd meddyliol a chorfforol ac mae tystiolaeth i ddangos cysylltiad rhwng maeth a chyrhaeddiad addysgol mewn plant.
Dim ond trwy gydweithio, cydlynu a darparu gyda’n gilydd y gellir ateb her lleihau a lliniaru effaith negyddol a niweidiol tlodi bwyd. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r gadwyn cyflenwi bwyd, o weithgareddau cynhyrchu, prosesu, paratoi a bwyta.
Achosiant
Mae achosion tlodi bwyd yn gymhleth a niferus, ac maen nhw’n cynnwys y ffactorau canlynol;
- ariannol – incwm isel o ran treuliau aelwydydd a phris bwyd iach sydd ar gael yn lleol
- cymdeithasol – yn ymwneud ag arferion diwylliannol, sgiliau, rhwydweithiau cymdeithasol, ac effaith marchnata bwydydd nad ydynt yn rhai iach
- corfforol – yn ymwneud â mynediad i fwydydd ffres, gan gynnwys bwydydd wedi’u tyfu’n lleol, bwydydd a gaiff eu gwerthu mewn siopau a mannau sy’n gwerthu bwyd iach a fforddiadwy, i gyfleusterau coginio a chludiant.
Pwrpas
Mae’r ddogfen hon yn gam cyntaf o ran casglu adnoddau a chamau gweithredu cyfun y sefydliadau a’r asiantaethau sydd wedi ymrwymo ar hyn o bryd i ddarparu datrysiadau, a’u hymrwymiad i gynyddu eu cyfraniad i’r her o liniaru tlodi bwyd.
Dod â sefydliadau Statudol ac Anstatudol ynghyd i roi sylw strategol i dlodi bwyd ac ansicrwydd o ran bwyd yn lleol. Cydweithio i feddwl yn fyd-eang a gweithredu’n lleol.
Cysylltu camau gweithredu a gweithgareddau tuag at saith Nod Lles Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Creu sylfaen dystiolaeth leol i gefnogi rhaglenni tlodi bwyd a nodi achosion arfer gorau, e.e. Siarteri Bwyd.
Rôl
Datblygu, ehangu a chryfhau Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru a datblygu cynllun gwaith i’r dyfodol clir.
Darparu dull cydlynus, hirdymor, cynaliadwy wedi’i deilwra i fynd i’r afael â thlodi bwyd ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.
Cefnogi datblygu enghreifftiau lleol o raglenni tlodi bwyd.
Datblygu a rhannu datrysiadau ar draws y rhanbarth, Cymru a’r DU.
Aelodaeth
- Cadeirydd: Jen Griffiths – Cyngor Sir y Fflint
- Glynne Roberts - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Sector Iechyd
- Helen Wilkinson - Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych - Trydydd Sector
- Paul Seymour - Grŵp Tai Pennaf – Sector Tai
- Eifiona Thomas Lane – Prifysgol Bangor - Addysg Uwch
- Dr Dave Beck – Prifysgol Bangor - Addysg Uwch
- Rebecca Jones Hefin – Prifysgol Bangor - Addysg Uwch
- Claire Flint - Cyngor Sir y Fflint - Awdurdodau Lleol
- Henry Barnes - Y Groes Goch Brydeinig
- Andrea Basu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Sector Iechyd
- Laura England - Cyngor Sir y Fflint – Sector Addysg
- Laurie Searle - Fairhaven Congregation
- Paul Barnes - Cyngor Sir Ddinbych
- Donna Jordan - Plas Madoc - Datblygu Cymunedol
- Jackie Blackwell - Cyngor ar Bopeth Ynys Môn
- John Gallander - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol
- Dr Hefin Gwilym – Prifysgol Bangor - Addysg Uwch