Laurie Searle


Laurie Searle

Fy enw i ydi Laurie Searle. Rydw i wedi bod yn byw yng Ngogledd Cymru ers bron i bedair blynedd. Mae fy ngwraig, Caroline, a minnau wedi bod yn briod am 39 o flynyddoedd, ac mae gennym fab a merch, ac mae’r ddau wedi priodi.

Rydym yn bugeilio cynulleidfa Fairhaven Wales ar Fynydd yr Hôb, tu allan i Lanfynydd. Mae cynulleidfa Fairhaven wedi bod yn cymryd rhan rhagweithiol gyda sawl gweithgaredd estyn allan amrywiol i gynorthwyo gyda phobl digartref a diamddiffyn yn Wrecsam ers mis Gorffennaf 2017. Rydym yn cymryd rhan gyda Bugeiliaid Stryd Wrecsam, yn ogystal ag ymgysylltu gyda mentrau eraill yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gefnogi cymuned Wrecsam.