Laura England


Mae Cynllun Ysgolion Iach Sir y Fflint yn rhan o Addysg ac Ieuenctid ac yn cefnogi pob ysgol ar draws yr Awdurdod Lleol i gyflawni dull ysgol gyfan i hyrwyddo iechyd a lles. Mae gan bob ysgol yn Sir y Fflint Swyddog Ysgolion Iach, sy’n cynnig cymorth uniongyrchol i gydlynwyr ym mhob ysgol i hyrwyddo a sefydlu pynciau iechyd a lles allweddol yng nghymuned yr ysgol. Mae ysgolion yn datblygu drwy’r cynllun drwy greu cynlluniau gweithredu, darparu tystiolaeth a chwblhau achrediadau ar ddiwedd pob cyfnod. Bydd ysgolion yn parhau i wneud cynnydd drwy gyflawni’r Wobr Ansawdd Genedlaethol.

Mae’r Wobr Ansawdd Genedlaethol yn wobr urddasol a gaiff ei hasesu’n annibynnol sy’n dathlu ymrwymiad ysgol i iechyd a lles eu disgyblion, staff a chymuned gyfan yr ysgol. 

Datblygwyd y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy fel estyniad i Gynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru ac mae’r meini prawf yn cyd-fynd â Gwobr Ansawdd Genedlaethol Cynlluniau Ysgolion Iach – Rhwydwaith Cymru. Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gynllun achredu cenedlaethol sy’n cydnabod lleoliadau cyn-ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant. Bydd lleoliadau sy’n dilyn Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Sir y Fflint yn cael eu cydnabod a’u hachredu am eu hymdrechion yn hyrwyddo iechyd corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol.

Laura England Welsh Network Image               FlintsHealthySchool (003) - Laura England             Laura England Logo