Jackie Blackwell


Jackie Blackwell

Jackie yw Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Ynys Môn a hi oedd un o sylfaenwyr banc bwyd cyntaf yr ynys, Pantri Pobl. Yn fwy diweddar, bu’n un o’r rhai a sefydlodd ein menter gwastraff bwyd, Bwyd Da Môn, ochr yn ochr â Dr Glynne Roberts, BIPBC. Bu Jackie yn gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau am 22 mlynedd a hi oedd y Rheolwr Busnes ar gyfer Rhanbarth Gogledd Orllewin Cymru a Phowys gyda chyfrifoldeb dros Gymhorthdal Incwm a pherfformiad Cydymffurfio. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae hi wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Ynys Môn.