Andrea Basu


Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Andrea Basu Image 1.1Andrea Basu, Arweinydd y Gwasanaeth, Deieteg Iechyd y Cyhoedd

Rwyf yn arwain tîm bach, ymroddgar a brwdfrydig o ddietegwyr a chynorthwywyr deietig sy'n gweithio ledled Gogledd Cymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl grŵp a sefydliad i:

    • gyfathrebu negeseuon iechyd y cyhoedd allweddol sy’n ymwneud â maetheg
    • hwyluso cyrsiau achrededig a safonol mewn perthynas â bwyd a maetheg
    • cefnogi darpariaeth bwyd a diod iach mewn lleoliadau cymunedol

Mae maetheg yn wyddoniaeth sy’n symud yn gyflym, ac fel Dietegwyr, mae’n hollbwysig i ni ein bod yn adolygu’r gwaith ymchwil yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod negeseuon am fwyd a maetheg yn ymarferol ac yn gywir. Fel Dietegwyr Cofrestredig sy’n gweithio yn y GIG, gellir ymddiried ynom o hyd i ddarparu gwybodaeth ddiduedd sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Yn gweithio gyda mi yn ardal y Dwyrain (Wrecsam a Sir y Fflint) mae:

    • Alys Roberts, Dietegydd Arbenigol Iechyd y Cyhoedd
    • Claire O’Kane, Ymarferydd Iechyd
    • Sarah Powell-Jones, Ymarferydd Cymhorthydd Deietig
    • Sarah Jones, Cymhorthydd Deietig

 AB image 2                     AB image 3

Rydym yn gweithio ar y cyd gyda Dietegwyr mewn byrddau iechyd ledled Cymru i ddarparu ystod eang o gyrsiau bwyd a maetheg o fewn ymbarél Sgiliau Maetheg am Oes TM  , mae’r rhain yn cynnwys;

    • Hyfforddiant Sgiliau Maetheg i weithwyr yn y gymuned
    • megis nyrsys meithrinfeydd, gweithwyr ieuenctid, gweithwyr gofal, cynorthwywyr addysgu, gwirfoddolwyr a llawer mwy. Ein nod yw adeiladu sgiliau bwyd a maetheg i waith bob dydd y sawl sydd mewn cysywllt rheolaidd gyda grwpiau’r gymuned a'r sawl sy’n deall anghenion y bobl leol orau.
    • Cyrsiau Sgiliau Maetheg
    • ar gyfer aelodau o’r gymuned a grwpiau galluogi o unigolion yn y gymuned i ennill gwybodaeth a sgiliau am fwyd a maeth sydd o fudd i’w hiechyd a’u lles eu hunain. Mae ein tîm yn cefnogi darpariaeth drwy hyfforddiant a sicrwydd ansawdd i weithwyr cymunedol i’w rhedeg, yn ychwanegol i’n cymorthyddion deietig sydd hefyd yn hwyluso’r cyrsiau eu hunain.

AB image 4                      X:\GDPR Registered Photographs\Public Health Photos and Consent Forms\L1 and Come and Cook\Come and Cook Facilitator Training Days\Facilitator Training Oct 18\Photo 2.jpg

Mae ein cyrsiau wedi cael eu dylunio’n ofalus i gefnogi ystod o anghenion, er enghraifft ein cwrs arbennig ar sgiliau bwyd a maeth cymunedol lefel 2 achrededig ar gyfer gweithwyr cymunedol, sy'n ddelfrydol ar gyfer y sawl sy'n gweithio gyda grwpiau o bob oedran, gan alluogi mynediad i'r wybodaeth a'r adnoddau cyfredol i gefnogi eu gwaith ac i raeadru negeseuon cyson am faeth. Mae hyn yn archwilio egwyddorion gwyddoniaeth maeth a ffyrdd iach o fyw, ac i ennill dealltwriaeth ymarferol ar sut mae’r bwyd a'r diod rydym yn ei fwyta a’i hyfed yn dylanwadu ar ein hiechyd a’n lles yn y tymor hir.

Mae ein cwrs sgiliau bwyd a maeth cymunedol lefel 2 achrededig ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn bwrpasol ar gyfer y sawl â chyfrifoldeb dros ddarparu bwyd a diod mewn lleoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar, gyda chynnwys sy'n cyd-fynd â safonau Llywodraeth Cymru.

Mae ein cyrsiau ar gyfer aelodau o’r gymuned yn cynnwys ‘Tyrd i Goginio’ sydd wedi profi i fod yn llwyddiannus wrth gefnogi unigolion i ennill rhagor o wybodaeth, sgiliau a hyder wrth baratoi prydau iach i’w hunain a’u teuluoedd.

Mae’r cwrs hwn yn ymarferol ac yn dysgu hanfodion maetheg mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r sawl sydd wedi bod yn y sesiynau yn aml yn dweud wrthym eu bod wedi magu hyder wrth goginio prydau o ddim, yn bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, a chanddynt rhagor o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o lefelau’r braster, siwgr a halen sydd wedi’u cynnwys mewn rhai bwydydd.

Boliau Bach / Tiny Tums

yn enghraifft o’r gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi darpariaeth bwyd a diod iach mewn lleoliadau cymunedol. Mae’r dyfarniad ar agor i leoliadau gofal plant y blynyddoedd cynnar yng Ngogledd Cymru, ac fe’i ddatblygwyd i nodi a gwobrwyo cyflawniad ymarfer da o fewn darpariaeth bwyd a diod ar gyfer plant rhwng 1-4 mlwydd oedd, yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru.

I fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad, mae gofyn i bob lleoliad gael un aelod o staff o leiaf sydd wedi bod ar ein cwrs hyfforddiant achrededig (lefel 2, y blynyddoedd cynnar). Unwaith mae’r aelod o staff wedi cyflawni’r achrediad ar gyfer eu haddysg, mae'r lleoliad yn gymwys i wneud cais am ein dyfarniad Boliau Bach, mae hyn cynnwys cyflwyno eu bwydlenni, polisi bwyd a rhestr wirio bwydlenni.

Rydym yn asesu ac yn darparu adborth, cyngor a chyfarwyddyd i’w cynorthwyo i gyflawni’r dyfarniad. Bydd lleoliadau llwyddiannus yn cael tystysgrif Arfer Orau Boliau Bach a sticer Boliau Bach i’w roi yn y ffenestr, sy’n ddilys am 3 blynedd. Mae lleoliadau'n cael eu annog i arddangos eu tystysgrif â balchder ac i rannu llwyddiant eu dyfarniad gyda rhieni a phlant.

Mae’r cyrsiau a enwir uchod wedi’u hachredu gan Argoed Cymru ac yn cael eu galluogi gan ein partner addysg, Dysgu Oedolion Cymru.

AB image 5

Gweithio mewn Partneriaeth

Rydym yn cydweithio blwyddyn ar ôl blwyddyn i gefnogi bwyta’n iawn ar draws ein cymunedau ac i wneud y mwyaf o’n gwybodaeth, sgiliau a’n hadnoddau cyfunol. Yn ystod 2020, rydym yn gweithio ar y cyd gydag ysgolion iach a chydweithwyr addysg i raeadru cyngor a chymorth ymarferol i deuluoedd sy’n derbyn lwfans prydau ysgol am ddim. Yn 2018/19 fe ddatblygon ni ‘Dewch i Goginio gyda’ch plentyn’, sef fersiwn ddiwygiedig o'n rhaglen Dewch i Goginio, a hwyluswyd o fewn ysgolion cynradd a’n cyd-fynd â’r cwricwlwm, mae’n cefnogi rhieni a phlant dosbarth derbyn yn benodol.

Am ragor o wybodaeth ac i gysylltu â ni, anfonwch neges e-bost at

BCU.PublicHealthDietitians@wales.nhs.uk